Rhosfarced
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn nwyrain Sir Benfro yw Rhosfarced (Saesneg: Rosemarket). Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberdaugleddau.Daw'r enw o enw'r cantref, Rhos, a'r gair Saesneg market. [1]. Cyfeiria hyn at y farchnad a sefydlwyd yma yn y 12fed ganrif gan Farchogion Sant Ioan o Slebets.
Cysegrir yr eglwys i Sant Ismael. Y mwyaf nodedig o hynafiaethau'r ardal yw colomendy canoloesol, sydd a lle i dros 200 o nythod. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 454.
[golygu] Nodiadau
- ↑ Charles, B. G., The Placenames of Pembrokeshire (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol, 1992), ISBN 0-907158-58-7, t. 628