Gideon Petersen
Oddi ar Wicipedia
Cerflunydd o Sanclêr ydy Gideon Petersen, mae'n byw yn Llandisilio, Sir Benfro. Astudiodd Celfyddyd Gain yn y brifysgol. Mae'n defnyddio metel yn bennaf ond mae hefyd yn cyfuno lledr, pren a gwydr yn ei waith.
Mae ei dad David Petersen hefyd yn gerflunwr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Cenedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] Gideon a'i frawd Toby Petersen ddyluniodd y stamp dosbarth cyntaf gyda'r ddraig arni wedi ei gerfio o ddur gwrthstaen.[2]
Toby a Gideon greodd cerflun coffa Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.[3]