David Petersen
Oddi ar Wicipedia
Cerflunydd o Gaerdydd ydy David Petersen, mae'n byw yn Sanclêr. Metel fydd yn defnyddio yn bennaf ar gyfer cerflunio ond mae hefyd yn paentio a darlunio.
Mae ei feibion Toby a Gideon hefyd yn gerflunwyr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Cenedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] David Petersen ddyluniodd y stamp ail-ddosbarth gyda'r cenheinen arni wedi ei gerfio o bren.[2]
Roedd Petersen hefyd ym ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cymru ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1999. Fe enillodd 2356 o bleidleisiau, sef 8.1%.[3]
Roedd yn arwain y ddirpwyaeth o Gymru pob blwyddyn yn y Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, ond ymddeolodd o'r swydd wirfoddol yn 2008, yn dilyn gwrthdaro gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.[4]