See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Plaid Cymru - Wicipedia

Plaid Cymru

Oddi ar Wicipedia

Plaid Cymru - The Party of Wales
Rhosyn y blaid
Arweinydd Ieuan Wyn Jones
Sefydlwyd 5 Awst, 1925
Pencadlys 18 Park Grove,
Caerdydd, CF10 3BN
Ideoleg Wleidyddol Cenedlaetholdeb Cymreig,
Democratiaeth sosialaidd
Safbwynt Gwleidyddol Canol-chwith
Tadogaeth Ryngwladol dim
Tadogaeth Ewropeaidd European Free Alliance
Grŵp Senedd Ewrop Greens-EFA
Lliwiau Melyn
Gwefan www.plaidcymru.org
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Rhestr pleidiau gwleidyddol y DU
Etholiadau yn y DU

Mae Plaid Cymru - The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am hunan-lywodraeth i Gymru.

Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.

[golygu] Hanes Plaid Cymru

Logo Plaid Cymru 1933-2006
Logo Plaid Cymru 1933-2006

Gweler hefyd: Plaid Genedlaethol Cymru Yr oedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth i Gymru yn y 19eg Ganrif, ac roedd y Blaid Lafur yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau. O ganlyniad fe sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, ym 1925.Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis Lewis Valentine ac H. R. Jones.

Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenedloedd.

Yn y tridegau ymgyrchodd i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y B.B.C., a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y GYmraeg

Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl er bod pob aelod seneddol o Gymru yn erbyn daeth mwy o gefnogaeth i Blaid Cymru.

Enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.

Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerfilli ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Cyngor Merthyr am gyfnod.

Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad gwanwyn 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.

[golygu] Refferendwm Datganoli 1979

Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 ac hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Caerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.

Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol {Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.

Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.

Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.

[golygu] Dolenni allanol


Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Ceidwadwyr | Democratiaid
Rhyddfrydol
|
Llafur | Plaid Cymru
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -