Lewis Valentine
Oddi ar Wicipedia
Gweinidog o Fedyddwr, awdur ac ymgyrchydd dros heddwch a hawliau Cymru oedd Lewis Valentine (1893 - 1986).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Coleg a'r Rhyfel
Cafodd ei eni yn Llanddulas, yn yr hen Sir Ddinbych. Roedd yn ysgolhaig da yn y Gymraeg a'r Hebraeg. Roedd wedi dechrau astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan a bu rhaid iddo ymrestru fel cynorthwywr meddygol yn y fyddin, profiad a wnaeth lawer i'w osod ar lwybr heddychaeth a Chenedlaetholdeb Cymreig. Aeth yn ôl i'r coleg wedyn a graddiodd gyda MA yn y Gymraeg.
[golygu] Bywyd cyhoeddus
Valentine oedd arlywydd cyntaf Plaid Cymru (Plaid Genedlaethol Cymru) a'i hymgeisydd seneddol pan safodd yn etholaeth Caernarfon yn Etholaeth cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1929. Yn 1936, cymerodd ran gyda Saunders Lewis a D. J. Williams yn y weithred symbolaidd o losgi ysgol fomio Penyberth, ger Pwllheli yn Llŷn. Treuliodd naw mis yn carchar am hynny.
Fel gweinidog treuliodd ran helaeth o'i weinidogaeth yn Llandudno, lle aeth ar ôl gorffen yn y coleg.
[golygu] Y llenor
Golygai Seren Gomer, cylchgrawn y Bedyddwyr, o 1951 hyd 1975. Cofnodai ei brofiad yn y Rhyfel Mawr yn y gyfrol Dyddiadur milwr, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, yn 1988. Cyfansoddodd nifer o emynau gan gynnwys Gweddi dros Gymru (a genir i dôn Finlandia Sibelius).
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lewis Valentine, Dyddiadur Milwr (1988)
- John Emyr (gol.), Lewis Valentine yn cofio (Gwasg Gee, Dinbych, 1983). Transgript sgwrs rhwng Valentine a John Emyr.