Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bangor - Wicipedia

Bangor

Oddi ar Wicipedia

Bangor
Gwynedd
Image:CymruGwynedd.png
Image:Smotyn_Coch.gif
Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.

Mae Bangor yn ddinas fechan yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru. Mae ganddi boblogaeth o dua 15,000. Mae Prifysgol Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o'r Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn domineiddio'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog syrth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Gaernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma ceir Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopio newydd yn cynnwys archfarchnadoedd mawr.

Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dau lefel, un gyda'r ffordd ceir, arall gyda'r rheilffordd. Ond mae Pont y Borth yn gul, a does dim caniatâd pasio arno, ac eithrio beic gan feic.

[golygu] Hanes

Eglwys gadeiriol Bangor
Eglwys gadeiriol Bangor

Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6ed ganrif. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).

Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 pan y'i llosgwyd gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13eg ganrif.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn y 13eg ganrif, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er wedi symud safle sawl gwaith.

Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18fed ganrif pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.

Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr ugeinfed ganrif gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.

[golygu] Y Pier

Pier y Garth o Fiwmaris
Pier y Garth o Fiwmaris

Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i'r Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad Gradd 2.

[golygu] Porth Penrhyn

Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19eg ganrif fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn.

[golygu] Ysgolion

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:

[golygu] Cludiant

Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth.

[golygu] Gefeilldref

[golygu] Llefydd i aros

[golygu] Cysylltiadau allanol

[golygu] Gweler hefyd


Trefi a phentrefi Gwynedd

Aberangell | Aberdaron | Aberdesach | Aberdyfi | Abererch | Abergwyngregyn | Abergynolwyn | Aberllefenni | Abermaw | Abersoch | Afon Wen | Arthog | Y Bala | Bangor | Beddgelert | Bethel | Bethesda | Betws Garmon | Blaenau Ffestiniog | Bontnewydd (Arfon) | Bontnewydd (Meirionnydd) | Botwnnog | Brithdir | Bryncir | Bryncroes | Bryn-crug | Brynrefail | Bwlchtocyn | Caernarfon | Carmel | Cefnddwysarn | Clynnog Fawr | Corris | Cricieth | Croesor | Cwm-y-glo | Chwilog | Deiniolen | Dinas Dinlle | Dinas Mawddwy | Dolgellau | Dolbenmaen | Dyffryn Ardudwy | Fairbourne | Y Felinheli | Y Fron | Frongoch | Ffestiniog | Ganllwyd | Garndolbenmaen | Golan | Groeslon | Harlech | Llanaelhaearn | Llanarmon | Llanbedr | Llanbedrog | Llanberis | Llandanwg | Llandwrog | Llandygái | Llanddeiniolen | Llandderfel | Llanegryn | Llanengan | Llanelltyd | Llanfachreth | Llanfaglan | Llanfair | Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) | Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) | Llanfihangel-y-traethau | Llanfor | Llanfrothen | Llangelynnin | Llangïan | Llangwnadl | Llaniestyn | Llanllechid | Llanllyfni | Llannor | Llanrug | Llanuwchllyn | Llanwnda | Llanymawddwy | Llanystumdwy | Llanycil | Llithfaen | Maentwrog | Mallwyd | Minffordd | Morfa Nefyn | Mynydd Llandygái | Mynytho | Nantlle | Nant Peris | Nasareth | Nebo | Nefyn | Penmorfa | Pennal | Penrhyndeudraeth | Pentir | Pen-y-groes | Pistyll | Pontllyfni | Porthmadog | Portmeirion | Pwllheli | Rachub | Rhiw | Rhosgadfan | Rhoslan | Rhostryfan | Rhyd-Ddu | Sarnau | Sarn Mellteyrn | Talsarnau | Talybont | Talysarn | Tanygrisiau | Trawsfynydd | Treborth | Trefor | Tregarth | Tudweiliog | Tywyn | Waunfawr


 
Dinasoedd yng Nghymru
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi


Crefydd | Cristnogaeth | Esgobaethau Anglicanaidd Cymru
... Image:Arfbais_esgobaeth_Bangor.png Image:Arfbais_esgobaeth_Llandaf.png Image:Arfbais_esgobaeth_Llanelwy.png ... Image:Arfbais_esgobaeth_Tyddewi.png
Abertawe ac
Aberhonddu
Bangor Llandaf Llanelwy Mynwy Tyddewi
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com