Llangïan
Oddi ar Wicipedia
Mae Llangïan yn bentref ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, gerllaw Afon Soch a fymryn i'r gogledd-orllewin o Abersoch.
Enillodd y pentref wobr y pentref taclusaf yng Nghymru nifer o weithiau yn ystod y 1950au a'r 1960au. Mae'r eglwys yn gysylltiedig a theulu Nanhoron, ac mae cofeb ynddi i'r Capten Timothy Edwards a fu farw o dwymyn ar fwrdd llong yn 1780. Rhoddodd ei weddw, Catherine Edwards dir i godi'r Capel Newydd i'r Piwritaniaid cynnar.
Ym mynwent yr eglwys mae carreg fedd o'r 5ed neu'r 6ed ganrif, gydag arysgrif Lladin diddorol iawn: MELI MEDICI / FILI MARTINI / IACIT. Gellir ei gyfieithu fel "(Carreg) Melus y meddyg, mab Martinus. Mae'n gorwedd (yma)". Mae cael cyfeiriad at broffesiwn yr ymadawedig yn brin iawn ar y cerrig beddi cynnar hyn, a dyma'r unig gyfeiriad at feddyg sydd wedi goroesi o'r cyfnod yma yn Ynysoedd Prydain.
Brodor o Langïan oedd y llenor a'r hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
- Parry, Gruffudd (1960) Crwydro Llŷn ac Eifionydd' (Llyfrau'r Dryw)