Llanfihangel-y-traethau
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a phlwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llanfihangel-y-traethau. Mae'r pentref ei hun yn cael ei nodi ar rai mapiau fel "Ynys" yn hytrach na Llanfihangel-y-traethau.
Gorwedd y pentref, sy'n gymuned wasgaredig, ar ochr dwyreiniol y bryniau isel i'r gogledd o wastadedd Morfa Harlech, ar lan y Traeth Bach ac aber Afon Dwyryd, tua tair milltir a hanner i'r gogledd o Harlech. Rhed ffordd yr A496 trwy'r pentref ac mae gorsaf aros ar Reilffordd Arfordir Cymru Glan-y-wern tua chwarter milltir i ffwrdd.
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd plwyf Llanfihangel-y-traethau yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys Y Lasynys, cartref Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, yn yr 17eg ganrif. Mae'n ymestyn o lan Bae Ceredigion i fyny i ragfryniau'r Rhinogau.
Mae Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn hen ond mae'r adeilad heddiw yn gymharol newydd. Roedd yn un o eglwysi'r pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Yn ôl traddodiad lleol a gofnodir ar garreg (cymharol ddiweddar) yn yr eglwys, codwyd yr eglwys gan Wleder fam Hoedliw yn oes Owain Gwynedd, ond diau fod llan yno cyn hynny.
[golygu] Cyfeiriadau
- T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1954)