Croesor
Oddi ar Wicipedia
Mae Croesor yn bentref bychan yng Nghwm Croesor wrth droed Cnicht a'r Moelwyn Mawr yng Ngwynedd. Mae'r boblogaeth tua 105. Mae yno un capel ac ysgol gynradd, ond dim siop. Gellir cyrraedd yno ar hyd dwy ffordd fechan o ardal Llanfrothen. Yn y 18fed ganrif roedd ffordd dyrpeg oedd yn cysylltu Tan y Bwlch a Nantmor yn mynd trwy'r pentref.
Datblygodd y pentref gyda thŵf y chwareli llechi yn y 19eg ganrif. Mae sawl chwarel yn y cylch, yn enwedig Chwarel Croesor a Chwarel Rhosydd. Agorwyd Chwarel Croesor yn 1856 a daeth yn eithaf llewyrchus dan reolaeth Moses Kellow o gwmpas troad y ganrif. Adeiladwyd trac tram i ddod a'r llechi i lawr o'r chwarel. Datblygwyd y pentref gan Hugh Beaver Roberts, perchennog stâd Croesor.
Efallai fod y pentref yn fwyaf enwog fel cartref Bob Owen, Croesor y casglwr llyfrau ac ysgolhaig.