Beddgelert
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng Ngwynedd yw Beddgelert. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y fynachlog a'r eglwys
- Prif erthygl: Priordy Beddgelert
Ger canol y pentref saif Eglwys y Santes Fair ar safle priordy cynharach. Dyma'r Beddgelert gwreiddiol. Hen fynachlog Gymreig oedd hi a sefydlwyd yn ôl traddodiad gan y sant Celert. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol newidiodd yn fynachlog Awstinaidd, yn bennaf er mwyn ceisio gwrthsefyll hawliau abaty Sistersiaidd Aberconwy i dir yn yr ardal.
Mae'r eglwys bresennol yn ddiweddarach, ond mae'n cynnwys rhannau o gapel yr hen briordy, yn arbennig dau fwa cerrig a ffenestr lanset hardd sy'n perthyn i'r 13eg ganrif. Atgyweiriwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1882.
[golygu] Chwedl Gelert
Yn ôl traddodiad poblogaidd ond diweddar, enwyd y pentref ar ôl hoff fytheiad Llywelyn Fawr, Gelert, a gladdwyd yno. Fodd bynnag, nid yw hynny'n wir; roedd yn stori a ddyfeisiwyd, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Ond gwyddom heddiw mai ar ôl y sant cynnar o'r enw Celert yr enwyd y pentref. Gelwir bwthyn ger y bont yn 'Fwthyn Llywelyn' hefyd, ond mae'n dyddio o'r 17eg ganrif. Cododd David Prichard, tafarnwr y Goat a dyfeisiwr y chwedl, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.
[golygu] Atyniadau a hynafiaethau yn yr ardal
- Dinas Emrys - bryngaer a chastell a gysylltir â chwedl Myrddin a'r brenin Gwrtheyrn
- Mwynglawdd Sygn - hen gloddfa copr
- Pont Aberglaslyn - mae llwybr deniadol yn dilyn cwrs hen reilffordd o Feddgelert i'r bont, gan ddilyn glan Afon Glaslyn
[golygu] Gweler hefyd
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Priordy Beddgelert