Parc Cenedlaethol Eryri
Oddi ar Wicipedia
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Penfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys rhyw 214,159 hectar (840 milltiroedd sgwâr), ardal lawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.
Mae'r parc o dan rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cael ei redeg gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r llywodraethau lleol (Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy) a Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio. Rhennir perchenogaeth tir yn y parc fel a ganlyn:
Math perchenogaeth | siâr (%) |
---|---|
Preifat | 69.9 |
Y Comisiwn Coedwigaeth | 15.8 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | 8.9 |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru | 1.7 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri | 1.2 |
Cwmniau Dŵr | 0.9 |
Eraill | 1.6 |
Mae dros 26,000 o bobl yn byw yn y parc, ac mae miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Y trydydd mwyaf poblogaidd o'r parciau cenedlaethol yn Nghymru a Lloegr yw ef.