Aberangell
Oddi ar Wicipedia
Pentref gerllaw priffordd yr A470 rhwng Mallwyd a Chemaes yn ne Gwynedd yw Aberangell. Saif lle mae Afon Angell yn llifo i mewn i Afon Dyfi.
Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd Mawddwy. Roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, ac yr oedd Tramffordd Hendre Ddu yn dod â llechi o Chwarel Hendre Ddu i'r orsaf yma i'w llwytho.
Roedd poblogaeth o 935 yn 1841, disgynodd y boblogaeth rhwng 1881 ac 1891 o 946 i 729.[1]