Llanrug
Oddi ar Wicipedia
Pentref gweddol fawr yng Ngwynedd yw Llanrug. Saif i'r gorllewin o dref Caernarfon, ar y briffordd A4086 rhwng Caernarfon a Llanberis. Llifa Afon Rhythallt heibio'r pentref, gan newid ei henw i Afon Seiont ar ôl llifo dan Bont Rhythallt. Mae ysgol uwchradd Ysgol Brynrefail yma.
[golygu] Pobl enwog yn gysylltiedig a Llanrug
- Einion Offeiriad, bardd, rheithor y plwyf yn 1349
- Peter Bailey Williams, hynafiaethydd, person Llanrug am flynyddoedd lawer
- Dafydd Ddu Eryri, bardd, treuliodd y rhan olaf o'i oes yma