Llangelynnin (Meirionnydd)
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan, plwyf a chymuned yng Ngwynedd yw Llangelynnin. Saif i'r gogledd o dref Tywyn, ger y briffordd A493 ac uwchben y môr. Prin y gellir galw Llangelynnin yn bentref o gwbl, gan mai dim ond ychydig o adeiladau gwasgaredig ydyw; ei ganolbwynt yw Eglwys Sant Celynnin, sy'n dyddio o'r 13eg ganrif. Yn y fynwent, mae bedd Abram Wood, sylfaenydd tylwydd enwocaf y Sipsiwn Cymreig.
Mae cymuned Llangelynnin hefyd yn cynnwys pentref mwy Llwyngwril a phentref bychan Rhoslefain.