Bwlchtocyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne-orllewin penrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Bwlchtocyn. Mae'n rhan o gymuned Llanengan.
Gorwedd y pentref tua milltir i'r de-ddwyrain o bentref Llanengan a thua milltir a hanner i'r de o Abersoch. I'r gorllewin ceir Mynydd Cilan ym mhen dwyreiniol Porth Neigwl. Fymryn i'r dwyrain o Fwlchtocyn ceir pentref bychan Marchros lle ceir Porth Tocyn. I'r de o'r pentref ceir bae Porth Ceiriad.