Penrhyn Llŷn
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu) a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae Penrhyn Llŷn yn ymestyn fel braich allan i'r môr tua gogledd Bae Ceredigion. Mae'n rhan o Wynedd yng ngogledd orllewin Cymru. Y prif drefi yw Aberdaron, Abersoch, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Creadigaeth bur diweddar yw'r term ei hun.
Mae'r penrhyn yn cael ei adnabod fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir nifer o draethau braf, yn arbennig ar yr arfordir deheuol, baeau creigiog ar hyd arfordir y gogledd, a bryniau gosgeiddig fel Yr Eifl a Carn Fadryn.
Er gwaethaf mewnlifiad o siaradwyr Saesneg i leoedd fel Abersoch, erys Llŷn yn un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Gymraeg.
[golygu] Gweler hefyd
- Llŷn - y cantref hanesyddol; Pen Llŷn
- Eifionydd - cwmwd ac ardal hanesyddol; rhan dde-ddwyreiniol y penrhyn
[golygu] Llyfryddiaeth
- Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llandybie, 1968)
|
|
---|---|
Bryniau Clwyd • Dyffryn Gwy • Penrhyn Gŵyr • Penrhyn Llŷn • Ynys Môn |