Cyfres Crwydro Cymru
Oddi ar Wicipedia
Cyfres o lyfrau taith ar fröydd a siroedd Cymru yw Cyfres Crwydro Cymru, a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (sefydlwyd yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies). Dechreuwyd eu cyhoeddi yn 1952 a chafwyd 18 o gyfrolau erbyn canol y 1980au.
Bwriad y gyfres oedd cyflwyno hanes, topograffi a diwylliant hen siroedd a bröydd traddodiadol Cymru ar lun llyfrau taith yng nghwmni llenor adnabyddus sy'n adnabod yr ardal yn dda. Roedd y llenorion hynny yn cynnwys Aneirin Talfan Davies, T. I. Ellis, Bobi Jones, Frank Price Jones, Alun Llywelyn-Williams, Gomer M. Roberts a Ffransis G. Payne. Mae'r cyfrolau i gyd bron o safon llenyddol uchel ac yn darllen difyr. Yn ogystal â bod yn arweinlyfrau da, rhan o apêl y gyfres i'r darllenydd heddiw yw'r darlun cofiadwy o gymdeithas Gymraeg y 1950au a'r 1960au a geir ynddynt, a hynny mewn cyfnod pan ymestynnai'r Fro Gymraeg dros ran sylweddol o Gymru.
Yn nes ymlaen estynwyd cynllun gwreiddiol y gyfres i gynnwys llyfrau Crwydro am lefydd y tu allan i Gymru, e.e. Ynysoedd Heledd a Llydaw.
[golygu] Cyfrolau Crwydro Cymru
- Crwydro Arfon, gan Alun Llywelyn-Williams
- Crwydro Blaenau Morgannwg, gan Gomer M. Roberts
- Crwydro Bro Morgannwg (dwy gyfrol), gan Aneirin Talfan Davies
- Crwydro Ceredigion, gan T. I. Ellis
- Crwydro Dwyrain Dinbych, gan Frank Price Jones
- Crwydro Gorllewin Dinbych, gan Frank Price Jones
- Crwydro Llŷn ac Eifionydd, gan Gruffydd Parry
- Crwydro Maesyfed (dwy gyfrol), gan Ffransis G. Payne
- Crwydro Maldwyn, gan T. I. Ellis
- Crwydro Meirionnydd, gan T. I. Ellis
- Crwydro Môn, gan Bobi Jones
- Crwydro Sir Benfro (dwy gyfrol), gan E. Llwyd Williams
- Crwydro Mynwy, gan T. I. Ellis
- Crwydro Sir Gâr, gan Aneirin Talfan Davies
- Crwydro Sir y Fflint, gan T. I. Ellis