Aneirin Talfan Davies
Oddi ar Wicipedia
Bardd ac awdur oedd Aneirin Talfan Davies (1909-1980) (Aneurin ap Talfan). Cafodd ei eni yn Nhrefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, lle 'roedd ei dad yn weinidog, ac wedyn mynychodd Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr wedi i'r teulu symud i Dre-gŵyr.
Roedd yn frawd i'r Barnwr Alun Talfan Davies ac yn ewythr i'r cyhoeddwr llyfrau Cymreig Christopher Davies (Abertawe). Roedd hefyd yn dad i Geraint Talfan Davies. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd weithio i'r BBC yn Abertawe.
Gyda'i frawd Alun sefydlodd y wasg a'r tŷ cyhoeddi Llyfrau'r Dryw, a ddaeth yn ddiweddarach yn Christopher Davies. Ef sefydlodd y cylchgrawn Heddiw, a gyda'i frawd y cylchgrawn Barn.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Y Ddau Lais (1937). Cerddi.
- Yr Alltud (1944). Astudiaeth o waith James Joyce.
- Y Tir Diffaith (1946). Astudiaeth o waith T. S. Eliot.
- Eliot, Pwshcin, Poe (1948). Astudiaeth.
- Gwŷr Llên (1948). Beirniadaeth lenyddol.
- (golygydd) Blodeugerdd o Englynion (1950)
- (golygydd) Munudau gyda'r beirdd (1954)
- Crwydro Sir Gâr (Cyfres Crwydro Cymru, 1955; 1970)
- Sylwadau (1957)
- Pregethau a Phregethu'r Eglwys (1957)
- (golygydd) Englynion a Chywyddau (1958)
- Dylan: Druid of the Broken Body (1964)
- Yr Etifeddiaeth Dda (1967)
- Gyda Gwawr y Bore (1970)
- Crwydro Bro Morgannwg (Cyfres Crwydro Cymru, 1972)
- Diannerch Erchwyn a Cherddi Eraill (1976). Cerddi.
- David Jones: Letters to a friend (1979). Astudiaeth.