BBC
Oddi ar Wicipedia
Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation neu'r BBC (dyweder "bi bi ec", neu "bi bi si"). Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd a nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.
[golygu] Lleoliadau
Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.
Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw yn cynnwys Abertawe.
[golygu] Gwasanaeth Cymraeg
Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd teledu Cymraeg S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.
[golygu] Dolenni Cyswllt
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- gwefan BBC Cymru