Wrecsam
Oddi ar Wicipedia
Wrecsam Wrecsam |
|
Mae Wrecsam (Saesneg: Wrexham) yn dref yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Hi ydyw'r dref fwyaf ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Fel llawer o lefydd yn y gongl hon o Gymru, Saesneg yw tarddiad yr enw ond mae fersiynau modern gwahanol yn y ddwy iaith, Wrecsam (Cymraeg) a Wrexham (Saesneg). Yn hanesyddol mae'n rhan o Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o sir seremonïol Clwyd. Mae Glofa Gresffordd ger Wrecsam lle digwyddodd un o'r trychinebau mwyaf erchyll yn hanes pyllau glo Prydain, pan laddwyd 265 o lowyr ar ôl ffrwydrad nwy yn y pwll ar yr 22 Medi 1934.
Mae'n debyg mai Clwb Pêl-droed Wrecsam ydyw'r clwb pêl-droed mwyaf adnabyddus yng ngogledd Cymru.
Yn y rhigwm adnabyddus mae clochdy eglwys Wrecsam yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym 1888, 1912, 1933, a 1977. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1912
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1977
[golygu] Addysg uwch
Mae yna berthynas freintiedig rhwng Wrecsam (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru) a Saint-Dié-des-Vosges (Institut universitaire de technologie), yn Ffrainc.
[golygu] Gefeilldrefi
|
[golygu] Gweler hefyd
- Wrecsam -- y fwrdeistref sirol
- Wrecsam -- yr etholaeth
- Clwb Pêl-droed Wrecsam
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |