Rhosllannerchrugog
Oddi ar Wicipedia
Rhosllannerchrugog Wrecsam |
|
Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Rhosllannerchrugog (weithiau Rhosllanerchrugog; Rhos ar lafar).
Roedd Rhosllannerchrugog yn yr hen blwyf Rhiwabon. Yr hen enw yr ardal oedd Morton uwch y Clawdd (Saesneg: Morton Above the Dyke) neu yn gynt, yn Lladin, Morton Wallichorum (Saesneg: Welsh Morton).
Ffurfiwyd y plwyf newydd Rhosllannerchrugog yn 1844, yn cynnwys y pentrefi Rhosllannerchrugog, Ponciau, Pant a Johnstown.
Roedd Rhosllannerchrugog yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974 ac yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ond mae wedi bod ym mwrdeistref sirol Wrecsam ers 1996.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhosllannerchrugog ym 1945 a 1961. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961
[golygu] Enwogion
- Meredith Edwards - actor
- Tom Ellis - gwleidydd Llafur & SDP
- Rosemarie Frankland - Miss World, 1961
- Isaac Daniel Hooson - bardd (LLGC)
- Arwel Hughes - cyfansoddwr
- Colin Jones - arweinydd, pianydd
- Tom Jones (Twm Sbaen) - milwr (LLGC)
- Thomas William Jones, Arglwydd Maelor - gwleidydd Llafur
- James Idwal Jones - gwleidydd Llafur
- Stifyn Parri - actor
- Caradog Roberts - cyfansoddwr
- James Sauvage - canwr bariton (LLGC)
- John Glyn Williams - arweinydd, organydd
- Llŷr Williams - pianydd
[golygu] Llyfrau
- Hanes Rhosllannerchrugog (1945), J. Rhosydd Williams
- Rhos-Llannerch-Rugog: Atgofion (1955), William Phillips (1880-1969)
- Rhosllannerchrugog, Johnstown, Ponciau, Pen-y-cae: casgliad o luniau (Cyfrolau 1 & 2, 1991-92), Dennis W Gilpin
[golygu] Cysylltiadau allanol
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |