See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Glyn Ceiriog - Wicipedia

Glyn Ceiriog

Oddi ar Wicipedia

Pentref Glyn Ceiriog
Pentref Glyn Ceiriog
Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansantffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, bum milltir (8km) i'r gorllewin o'r Waun a chwe milltir (6km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth a gweinyddiaeth

[golygu] Hanes gweinyddol

Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansantffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16eg ganrif hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn ran o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyndŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.

[golygu] Cynrychiolaeth wleidyddol

Gweinyddir Glyn Ceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae Glyn Ceiriog yn ran o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynol.

O 1999, cynrychiolwyd Glyn Ceiriog yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Karen Sinclair, Aelod Cynulliad y Blaid Lafur ar gyfer De Clwyd

Ers 1997, cynrychiolir Glyn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Martyn Jones, Aelod Seneddol Llafur De Clwyd.

[golygu] Daearyddiaeth/Daeareg

Lleolir Glyn Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.

[golygu] Enwogion

Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lyn Ceiriog yn y gorffenol. Mae cysylltiadau rhwng y bardd canoloesol Guto'r Glyn (1435 - 1493), a Glyn Ceiriog. Roedd Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622 - 1709), wedi ei eni ac yn byw ger Glyn Ceiriog. Roedd yr ieithydd a bardd buddugol yr Eisteddfod, y Parchedig Robert Elis (Cynddelw) (1812 - 1875), yn weinidog yng Nghapel Annibynnol Bedyddwyr Cymru yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1840. Treuliodd y nofelydd Islwyn Ffowc Elis y rhan fwyaf o'i blentyndod ar fferm ger Glyn Ceiriog, er y ganed ef yn Wrecsam.

[golygu] Dolenni Allanol


Trefi a phentrefi Wrecsam

Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -