Robert Elis (Cynddelw)
Oddi ar Wicipedia
Roedd Robert Elis (3 Chwefror 1812 - 19 Awst 1875), neu Cynddelw, yn fardd, golygydd a geiriadurwr, a aned yn Nhyn y Meini, Bryndreiniog, plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn yr hen Sir Drefaldwyn.
Cafodd yrfa hir fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr.
Bu'n olygydd ar y cylchgronau Y Tyst Apostolaidd (1845-1850) ac Y Tyst (1857). Cyfranodd erthyglau ar Carnhuanawc a Dr William Owen Pughe i'r Gwyddoniadur Cymreig yn ogystal a chynorthwyodd Gweirydd ap Rhys ar ei gampwaith Hanes y Brytaniaid a'r Cymry.
Roedd Cynddelw yn ffigwr adnabyddus ym myd llenyddol Cymru ganol y 19eg ganrif. Golygodd Geiriadur y Bardd (d.d.), ac ail argraffiadiau o ddau glasur o'r 18fed ganrif, sef Gorchestion Beirdd Cymru (1864) a Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (Lerpwl, 1873).
Gweithiai'n gadarn o blaid y Gymraeg ac yn 1867 cyhoeddodd ei eiriadur arloesol Geiriadur Cymreig Cymraeg, gyda'r is-deitl "sef, Geiriau Cymraeg yn cael eu hegluro yn Gymraeg". Dyma'r geiriadur uniaith Gymraeg gyntaf. Symbyliad Cynddelw oedd ennyn mwy o barch gan y Cymry at eu hiaith eu hunain. Fel y dywed yn ei ragymadrodd i'r gyfrol,
- Dyma i chwi gynnyg newydd, a gwahanol i ddim a gafwyd o'r blaen, ym maes Geiriaduriaeth hen iaith y Cymry... Pa beth a ddywedasai y Saeson pe buasent yn awr heb yr un Geirlyfr yn eu hiaith eu hunain, namyn Saesonaeg a Lladin, neu Saesonaeg a Ffrangcaeg, etc.? Ond gadawyd ni hyd heddyw i ymdaro fel y gallem ar Eirlyfrau Cymraeg wedi eu hegluro yn Saesonaeg, neu yn y gwrthwyneb.
O'i waith ei hun, cyhoeddodd Manion Hynafiaethol (1873), cofiannau i'w athro John Williams (1805-1856) a Dr Ellis Evans o Gefn-mawr. Ymddangosodd eu cerddi yn y wasg Gymraeg ac fe'i cyhoeddwyd mewn un gyfrol, Barddoniaeth Cynddelw (1877) wedi ei farw.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Cynddelw
- Tafol y Beirdd
- Geiriadur y Bardd
- Geiriadur Cymreig Cymraeg (1867)
- Manon Hynafiaethol (1873)
- Barddoniaeth Cynddelw (1877)
[golygu] Darllen pellach
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922). Tud. 84-86.
- David Williams, Cofiant Cynddelw (1925)