Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Oddi ar Wicipedia
Mae Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn bentref a phlwyf yng ngogledd Powys. Fe'i lleolir ym mhen mwyaf gogleddol y sir tua 9 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt a 12 milltir i'r de o Langollen. Rhed y lôn B4580 trwy'r pentref.
Fe'i gelwir yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant am ei fod yn rhan o hen gantref Mochnant.
Mae'r pentref yn gorwedd wrth droedfryniau cyntaf Y Berwyn ar lan afon Rhaeadr. Ym mhen uchaf y cwm ceir Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru yn yr hen rigwm. Un filltir i'r gogledd o Lanrhaeadr mae bryn Moel Hen-fache (515m).
Treuliodd yr Esgob William Morgan (1545-1604), cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, gyfnod yn ficer plwyfi Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanarmon Mynydd Mawr cyfagos o 1568 hyd 1587. Yno y cyfarfu â'i wraig, Catherine.
Symudodd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) o Fanafon i fod yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf wrth lan afon Rhaeadr.
Un o enwogion eraill y plwyf oedd y bardd Robert Elis (Cynddelw), a aned yno yn 1812.