Llwydiarth
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Gweler hefyd Llwydiarth (gwahaniaethu).
Pentref bychan ym Maldwyn, gogledd Powys, yw Llwydiarth. Mae'n gorwedd ar lôn wledig y B4395 tua hanner ffordd rhwng Llanfihangel-yng-Ngwynfa i'r gogledd a Llangadfan i'r de, tuag 11 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd. Gerllaw ceir Pont Llogel.
Rhwng Llwydiarth a Llanfihangel ceir Plasdy Llwydiarth, cartref y Fychaniaid, ond er gwaethaf yr enw mae'n gorwedd ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa.
Plu'r Gweunydd yw papur bro Llwydiarth a'r cylch.