Llanwrthwl
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanwrthwl. Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Gwy, ychydig i'r de o dref Rhaeadr Gwy. Credir fod safle'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Gwrthwl, yn dyddio o'r cyfnod cyn-Gristnogol.
Mae'r gymuned yn ymestyn dros ardal helaeth o ucheldir i'r gorllewin o bentref Llanwrthwl, rhan o fryniau Elenydd. Y copa uchaf yw Drygarn Fawr (641 m). Yma hefyd ceir cronfeydd dŵr Caban-coch a Claerwen.