Pen-y-bont-fawr
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Pen-y-bont-fawr, weithiau Penybontfawr. Saif ar lan Afon Tanad, i'r gogledd-orllewin o bentref Llanfyllin ar y ffordd B4396. Brodorion o Ben-y-bont-fawr oedd Nansi Richards (Telynores Maldwyn) a Robert Ellis (Cynddelw).
Heblaw pentref Pen-y-bont-fawr, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Hirnant, prif bentref yr ardal yn wreiddiol. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 361.