Trefeglwys
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a phlwyf ym Maldwyn, Powys, yw Trefeglwys. Mae'n gorwedd ar lan ogleddol afon Trannon, un o ledneintiau afon Hafren, yn y bryniau tua 4 milltir i'r gogledd o Lanidloes, 9 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd, ar y ffordd rhwng Llanidloes a Chaersws. Mae gan y pentref boblogaeth o 868 (2001).
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd Trefeglwys, yng nghwmwd Arwystli Is Coed, yn enwog am y Grog anghyffredin, sef delw o'r Iesu wedi ei rwymo, yn yr eglwys. Fe'i symudwyd yno rywbryd yn y cyfnod hwnnw o eglwys Y Drenewydd. Ceir o leiaf ddwy gerdd i'r Grog hon yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr, un ohonynt gan Siôn Ceri a'r llall yn gywydd gan fardd anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[1]
Mae plwyf Trefeglwys yn cynnwys "trefi" Bodaioch, Maestrefgomer, Esgeirieth a Dolgwden.
Heddiw mae sawl cyfleuster yn y pentref, yn cynnwys tafarn, garej, eglwys a chapel, ysgol gynradd, neuadd y pentref a maes chwarae. Fel sawl pentref gwledig arall o'r rhan yma o Bowys, mae Trefeglwys wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn dros y degawdau diwethaf.
Ganed Phil Mills (1963- ), gyrrwr rali o fri, yn y pentref.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ M. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocryffa Siôn Cent (Aberystwyth, 2004), cerdd 1.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan y pentref