Betws Cedewain
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Betws Cedewain, weithiau Bettws Cedewain. Saif i'r gogledd o'r Drenewydd ar y ffordd B4389. Hyd at 1914, eiddo i stad Gregynog yr oedd y rhan fwyaf o'r ffermydd.
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio yn bennaf o'r 19eg ganrif ond gyda tŵr o'r 16eg ganrif, i sant Beuno. Daw enw'r pentref o gantref Cedewain.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 425.