Llywel
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llywel. Saif ger y briffordd A40 i'r gorllewin o Bontsenni. Yn Eglwys Dewi Sant, sy'n enghraiffy o bensaernïaeth Berpendicwlar Gothig, ceir carreg ag arysgrif Ogam arni. Mae Carreg Llywel, sydd hefyd yn dwyn argysgrif Ogam, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn y fynwent, mae David Owen (Brutus) wedi ei gladdu.
Heblaw pentref Llywel, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Trecastell. Ardal fynyddig yw'r gymuned, yn cynnwys Fan Brycheiniog, copa uchaf y Mynydd Du, a Llyn y Fan Fawr. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 524.