Llangynyw
Oddi ar Wicipedia
Pentref bach ym Maldwyn, Powys, ger Llanfair Caereinion ydy Llangynyw (Llangyniew ar y map OS). Mae'n gorwedd ar fryn sy'n codi mewn tro ar afon Banwy, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanfair Caereinion.
Mae eglwys y pentref wedi ei chysegru i Sant Cynyw. Tua 1.5 milltir i'r gogledd o'r pentref, wrth droed y bryn, ceir Mathrafal, safle llys brenhinoedd Powys.