Llanfihangel Rhydieithon
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ardal Maesyfed, dwyrain canolbarth Powys, yw Llanfihangel Rhydieithon. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o Fforest Faesyfed ar yr A488 rhwng Llandrindod i'r de-orllewin a Llanandras i'r dwyrain. Cyfeiria'r enw lle at ryd ar afon Ieithon ger y pentref.
Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Faesyfed ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ [http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).