Llanwddyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yw Llanwddyn ( ynganiad ?/i ). Gorwedd ar lan ogleddol afon Efyrnwy ger yr argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Tua hanner milltir i'r dwyrain o Llanwddyn ceir pentref Abertridwr.
Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y Santes Melangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).