Mochdre, Powys
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, yw Mochdre. Saif i'r de-orllewin o'r Drenewydd.
Cysegrwyd yr eglwys i'r Holl Saint. Mae'r to yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif, ond ail-adeiladwyd y gweddill yn 1867. Efallai fod cyfeiriad at Mochdre ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogion, chwedl Math fab Mathonwy, lle mae Gwydion wedi dwyn moch Pryderi yn aros dros nos rhwng Ceri ac Arwystli.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 482.