Capel-y-ffin
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghymuned Llanigon ym Mhowys, yw Capel-y-ffin. Saif bron ar y ffîn a Lloegr, rhyw 8 milltir i'r de o'r Gelli Gandryll ac i'r gogledd o bentref a phriordy Llanddewi Nant Hodni. Saif ar lan Afon Honddu ym mhen draw cwm anghysbell Dyffryn Euas, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yng Nghapel-y-ffin y sefydlodd Joseph Lyne ("Y Tad Ignatius") fynachlog Fenedictaidd Anglicanaidd yn 1869. Yn ddiweddarach, daeth y fynachlog yn eiddo i Eric Gill. Roedd hostel ieuenctid adnabyddus yma, ond mae hon wedi cau bellach.