Llanddewi Ystradenni
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Llanddewi.
Mae Llanddewi Ystradenni yn bentref bychan yng nghanolbarth Powys. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Ieithon ar ffordd yr A483, tua 7 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod.
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Buddugre, yng nghantref Maelienydd; codwyd Castell Buddugre yno yn y 12fed ganrif. Dros y cwm i'r gorllewin ceir adfeilion Abaty Cwm Hir, lle claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd ar ôl iddo gael ei ladd ger Buallt yn Rhagfyr 1282.