Llandrinio
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llandrinio. Saif ar lan ogleddol Afon Hafren, i'r gogledd-ddwyrain o'r Trallwng ac i'r de o Groesoswallt, heb god ymhell o'r ffîn a Lloegr.
Cysegrwyd eglwys Llandrinio i Sant Trunio; canodd Guto'r Glyn gywydd o fawl i'r rheithordy yma. Mae'r bont dros Afon Hafren yn dyddio o 1775.
Heblaw pentref Llandrinio, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Sarnau ac Ardd-lin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,137.