Llangynllo (Powys)
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Gweler hefyd Llangynllo.
Pentref bychan ym Mhowys, canolbarth Cymru, yw Llangynllo. Fe'i lleolir ar y B4356 10 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod, 4 milltir i'r gorllewin o Dref-y-clawdd a'r ffin â Lloegr. Rhed Afon Llugwy trwy'r pentref.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynllo. Yn y plwyf ceir sawl ffynnon iachaol, yn cynnwys Ffynnon Lwli ar fferm Ffynnon Wen, Pistyll Cynwy a Ffynnon Haearn.