Cegidfa
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Cegidfa (Saesneg: Guilsfield). Saif i'r gogledd o'r Trallwng ar y ffordd B4392.
Tyfodd y pentref ei hun yn sylweddol yn ystod rhan olaf yr 20fed ganrif. Dyddia rhan o'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Aelhaearn, i tua 1300. Yma y cymerwys Syr John Oldcastle, un o arweinwyr y Lolardiaid, yn garcharor yn 1417.
Yng Nghoedlan Crowther yn y gymuned, cafwyd hyd i gasgliad o arfau a chelfi o Oes yr Efydd a elwir yn Gasgliad Cegidfa. Maent yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,640.