Cnwclas
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym Mhowys yw Cnwclas (llurguniad Saesneg: Knucklas). Gorwedd bron ar y ffin â Lloegr (Swydd Amwythig), tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o Dref-y-clawdd.
Ganed y diwygiwr Anghydffurfiol a Phiwritan Vavasor Powell yn y pentref ym 1617.