Llanafan Fawr
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Llanafan. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).
Pentref bychan, cymuned a phlwyf ym Mrycheiniog, de Powys, yw Llanafan Fawr (ffurfiau amgen: Llanafan-fawr / Llanafan-Fawr). Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt.
Gorwedd Llanafan Fawr ar lan afon Chwerfru, ffrwd sy'n rhedeg i lawr o lethrau'r Garn ym mryniau Elenydd i ymuno yn afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt.
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Afan gan fintai o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog ym 542, ar lan ffrwd yn y plwyf a elwir yn Nant Esgob.[1] Yn llan yr eglwys a gysegrir i'r sant ceir pren ywen sydd wedi sefyll yno am tua 2,000 o flynyddoedd.
Bu'r ysgolhaig a bardd Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yn Llanafan Fawr ddiwedd y 1750au. Mae'r bardd Saesneg T. Harri Jones yn enedigol o'r pentref.
Dywedir bod Tafarn y Llew Goch yn y pentref yn dyddio i'r 12fed ganrif, er nad yw'r adeilad ei hun yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanafan Fawr yn flynyddol ar y trydydd Sadwrn ym mis Medi. Roedd poblogaet y gynuned yn 2001 yn 475.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).