Rhaeadr Gwy
Oddi ar Wicipedia
Rhaeadr Gwy Powys |
|
Tref fechan wledig yng ngorllewin Powys yw Rhaeadr Gwy (Saesneg: Rhayader). Gorwedd ar lannau Afon Gwy.
Mae'n debygol mai Rhaeadr Gwy oedd canolfan weinyddol cwmwd Gwerthrynion yn yr Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriadau at Gastell Rhaeadr Gwy ym Mrut y Tywysogion, ond dim ond olion un o'r ffosydd sydd i'w gweld ar y safle heddiw.