Pontsenni
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym Mrycheiniog, de Powys, yw Pontsenni (Saesneg: Sennybridge). Gorwedd ar y draffordd A40 tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r dwyrain a Llanymddyfri i'r gorllewin.
Enwir Pontsenni ar ôl y bont ar afon Senni, ffrwd sy'n llifo i lawr o fryniau'r Fforest Fawr i'r de. I'r gogledd o'r pentref cyfyd Mynydd Epynt. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Defynnog i'r de, Trecastell i'r gorllewin, a Pentre'r-felin i'r gogledd.
Gorwedd y pentref ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.