Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hôl, gweler Bannau Brycheiniog.
Parc Cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym 1957.
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Copaon uchaf
[golygu] Mynydd Du (Mynwy)
[golygu] Bannau Brycheiniog
[golygu] Fforest Fawr
- Fan Llia (631 m)
- Moel Feity (591 m)
- Fan Nedd (563 m)
[golygu] Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)
- Fan Brycheiniog
- Garreg Lwyd (616m)
[golygu] Llynnoedd
- Llyn y Fan Fach
- Llyn y Fan Fawr
- Llyn Syfaddan
- Llyn Wysg