Ogof Ffynnon Ddu
Oddi ar Wicipedia
Ogof ger Penwyllt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ogof Fynnon Ddu. Gorwedd yn y Fforest Fawr tua milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Craig-y-nos. Gyda dyfnder o 308m a thua 50 km o led mae hi'n un o'r ogofau dyfnaf a hwyaf ym Mhrydain a hi yw'r gyntaf i gael ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ar lawr yr ogof mae palmant calchfaen a tu mewn mae stalagmitau a stalagtitau, rhaeadrau, culfeydd syrth a sympiau. Mae pump mynedfa i'r ogof.