Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)
Oddi ar Wicipedia
- Am y Mynydd Du yn Sir Fynwy, gweler Mynydd Du (Mynwy).
Cadwyn o fynyddoedd yn Sir Gaerfyrddin yw'r Mynydd Du, sy'n gorwedd ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fan Brycheiniog (802 m) yw copa uchaf y Mynydd Du. Yr unig ffordd fawr i groesi'r ardal yw'r A4069, rhwng Brynaman a Llangadog.
Ymestyn y gadwyn o gyffiniau Rhydaman yn y de-orllewin hyd Pontsenni yn y gogledd-ddwyrain. Mynyddoedd Hen Dywodfaen Coch a chalchfaen ydynt yn bennaf. Mae'r Mynydd Du yn rhan o barc daearegol newydd Fforest Fawr, ond nid yw'n cael ei ystyried yn rhan o'r Fforest awr ei hun. [1] Yng ngogledd y Mynydd Du ceir Llyn Wysg, ger tarddle afon Wysg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Copaon
- Cefn Carn Fadog (505 m)
- Fan Brycheiniog (802 m)
- Foel Fraith (604 m)
- Garreg Lwyd (616 m)
- Mynydd Myddfai
[golygu] Llên gwerin
Mae'r Mynydd Du a'r cylch yn ardal gyfoethog ei chwedlau gwerin. Yr enwocaf yw honno am Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Yma hefyd y lleolir chwedl Llyn Llech Owain a chwedl Ogof Craig y Ddinas. Ar odre gogleddol y Mynydd Du ceir pentref Myddfai, cartref Meddygon Myddfai yn yr Oesoedd Canol.
[golygu] Darllen pellach
- Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail arg. 1970)
- Gomer Morgan Roberts, Chwedlau Dau Fynydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1948)