See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Meddygon Myddfai - Wicipedia

Meddygon Myddfai

Oddi ar Wicipedia

Llinach o feddygon llysieuol yn byw ym mhentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin oedd Meddygon Myddfai.

Ceir y cofnod cyntaf amdanynt yn y 13eg ganrif, pan oedd Rhiwallon Feddyg a'i feibion Cadwgan, Gruffudd ac Einion, yn feddygon i Rhys Gryg, tywysog Deheubarth. Cofnodir iddynt roi triniaeth iddo pan glwyfwyd Rhys mewn brwydr gerllaw Caerfyrddin yn 1234, ond ni fuont yn llwyddiannus yn yr achos yma a bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn Llandeilo. Parhaodd y llinach hyd 1739, pan fu farw'r olaf ohonynt, John Jones. Cedwir eu cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi meddyginiaethau llysieuol yn Llyfr Coch Hergest, yn dyddio o ran olaf y 14eg ganrif, a llawysgrifau Cymreig eraill, diweddarach.

Cysylltir dechreuadau'r llinach a chwedl Llyn y Fan Fach. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger Llanddeusant) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth yr oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i hepu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol Rhiwallon, sylfaenydd llinach y meddygon. Mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith.

Yr hyn a geir yn llawysgrifau Meddygon Myddfai yw casgliad o gyfarwyddiadau ynglŷn â deall a dadansoddi afiechydon a gwella cleifion. Er bod gwedd Gymreig arbennig iddynt, maent yn perthyn i draddodiad a oedd yn gyffredin i sawl rhan o Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn gyfuniad o feddyginiaeth lysieuol draddodiadol a syniadau'r oes am drin cleifion. O safbwynt ieithyddol, mae'r llawysgrifau hyn yn ffynhonnell bwysig am dermau meddygol ac enwau planhigion hefyd.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • The Physicians of Myddvai = Meddygon Myddfai: or, the medical practice of the celebrated Rhiwallon and his sons of Myddvai, in Carmarthenshire ... cyfieithwyd gan John Pughe, golygwyd gan John Williams (Ab Ithel) (Llanymddyfri, 1861).
  • Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986). Ceir detholiad o destunau o lawysgrifau Meddygon Myddfai yn y bennod 'Meddyginiaeth'.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -