Llyfr Coch Hergest
Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi ogystal sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi. Fe'i cysylltir â'r noddwr Hopcyn ap Tomas ar ddechrau'r 15fed ganrif.
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.
[golygu] Cynnwys
- Ystorya Dared
- Historia Regum Brittaniae (Brut Sieffre o Fynwy)
- Brut y Tywysogion
- Ystorya de Carolo Magno a chwedlau eraill am Siarlymaen
- Delw y Byd
- Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain
- Breuddwyd Rhonabwy
- Detholiad o Drioedd
- Pedair Cainc y Mabinogi
- Ystorya Bown o Hamtwn
- Testunau Meddygon Myddfai
- Amlyn ac Amig
- Testun o un o ramadegau'r beirdd
- Casgliad o ddiharebion Cymraeg
- Testunau gwaith rhai o Feirdd y Tywysogion
- Testunau cerddi eraill, gan rai o feirdd y 14eg ganrif
[golygu] Ffynonellau
- 'Llyfr Coch Hergest'. Yn Meic Stephens (gol.) (1998), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.