Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Merlyn mynydd Cymreig - Wicipedia

Merlyn mynydd Cymreig

Oddi ar Wicipedia

Mae'r merlyn mynydd Cymreig (amrywiadau: merlen mynydd Cymreig neu merlen bach y mynydd) yn frîd arbennig o ferlyn sy'n unigryw i fynyddoedd a bryniau Cymru. Mae'n frîd ers o leiaf 500 o flynyddoedd ac mae'n digon posibl bod y merlod hynod hyn yn ddisgynyddion o ferlod y Celtiaid ac felly wedi bod yn rhan o fywyd mynyddoedd Cymru am 3000 mlynedd neu ragor. Yn yr Oesoedd Canol, cyn gyflwyno meirch trwm ar gyfer marchogion llawn arfog, arferai rhyfelwyr Cymry farchogaeth merlod bychain fel y rhain (ond dim i'w defnyddio i ymladd), a oedd yn gyflym ar dir anwastad y bryniau.

Merlod mynydd y Carneddau: dwy gaseg feichiog ger Bwlch Sychnant
Merlod mynydd y Carneddau: dwy gaseg feichiog ger Bwlch Sychnant

Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwriaeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

Mae'r merlod yn byw mewn preiddiau o hyd at 30 o gesig dan un stalwyn. Unwaith y flwyddyn caent eu corlannu am gyfnod byr er mwyn cymryd a gofalu am rai o'r ebolion a enir ar ddechrau'r gwanwyn. Ar wahân i hynny, treuliant eu holl amser yn rhydd ar y mynydd heb ymyrraeth gan eu gwneud y peth agosaf at geffylod gwyllt ym Mhrydain.

Yn ogystal â'r merlod gwyllt sy'n byw ar y bryniau, ceir stoc o ferlod mynydd Cymreig ar ffermydd bridio yng Nghymru a'r tu hwnt, e.e. yn yr Unol Daleithiau. Maent yn ffefrynnau gan farchogwyr ifainc.

[golygu] Merlod y Carneddau

Mae merlod mynydd y Carneddau yn grŵp unigryw. Dyma'r lleiaf eu maint o'r merlod mynydd Cymreig ond y mwyaf gwydn. Ceir tua 200 o'r merlod hyn yn byw ar lethrau'r Carneddau. Maent yn arbennig o niferus ar y llethrau gogleddol rhwng Foel Fras a Bwlch Sychnant. Ceir y grwp mwyaf ar dir comin Abergwyngregin a Llanfairfechan, gyda gyrr o tua 120 o ferlod. Maent yn anifeiliaid gwydn iawn, ond yn y gorffennol mae natur wedi bod yn drech arnynt: collwyd nifer sylweddol yng ngaeafau eithriadol oer 1947 a 1963, er enghraifft.

Yn 2005 cyflwynwyd deddfwriaeth newydd sy'n golygu fod rhaid i bob anifail a gyfrifir yn anifail amaethyddol gael pasbort a sglodyn am ffi. Roedd hyn yn fygythiad mawr i ddyfodol y merlyn mynydd Cymreig gan fod yr elw a wneir ohonynt gan y ffermwyr yn isel, ond cytunodd Cyngor Conwy a Chomisiwn Cefn Gwlad Cymru i ddalu am hyn yn achos merlod y Carneddau. Roedd llywodraeth Prydain yn gwrthod eithrio'r merlod mynydd Cymreig gwyllt o'r rheol newydd, er ei bod wedi gwneud hynny yn achos merlod mynydd Ardal y Llynnoedd, Dartmoor a'r New Forest yn Lloegr.

Yn haf 2007 sefydlwyd y ffermwyr lleol sy'n gofalu am y merlod gymdeithas newydd i'w gwarchod. Sefydlwyd 'Cymdeithas Merlod y Carneddau' dan 'Raglen Tir Eryri'.

Yn Nhachwedd 2007 cyhoeddwyd fod grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth am wneud astudiaeth o ferlod mynydd y Carneddau yn y gobaith o'u hachub. Gobeithir y bydd yr astudiaeth yn profi fod y merlod hyn yn frîd unigryw ac felly'n gymwys i gael eu heithrio o'r system pasbort newydd.[1]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Andrew Forgrave, 'Our little ponies facing extinction', yn atodiad 'Farm & Country' Daily Post, 22.11.07.

[golygu] Dolenni allanol

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com