Llyn Syfaddan
Oddi ar Wicipedia
Llyn Syfaddan neu Llyn Syfaddon yw llyn naturiol mwyaf de Cymru, gydag arwynebedd o 153 ha. (327 acer), tua milltir ar ei hyd a phum milltir o gwmpas y glannau. Saif ychydig i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gerllaw pentref Llangors, sy'n rhoi'r enw Saesneg Llangorse Lake iddo. Mae Afon Llynfi yn llifo trwy'r llyn.
Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig Penhwyad. Yma hefyd ceir crannog, sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn Iwerddon a'r Alban. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y 9fed ganrif. Roedd teulu brenhinol Brycheiniog o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog yma. Yn 916 ceir cofnod am fyddin Mercia yn dinistrio Brecenanmere, crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg.
Adroddir chwedl am y llyn gan Gerallt Gymro, a ddywed fod traddodiad y byddai Adar Syfaddan yn canu pan fyddai gwir dywysog Deheubarth yn gorchymyn iddynt. Yn ôl Gerallt, roedd Gruffudd ap Rhys yn cerdded ar lan y llyn yng nghwmni dau arglwydd Normanaidd, yn y cyfnod pan oedd y Normaniaid wedi cymeryd meddiant o bron y cyfan o Ddeheubarth. Gorchmynodd y ddau Norman i'r adar ganu heb lwyddiant, ond ar orchymyn Gruffudd codasant i'r awyr a chanu.
Mae hefyd draddodiad am dref wedi ei boddi dan ddyfroedd y llyn fel cosb am ei phechodau.